Cynhelir wythnos Beicio i'r Ysgol ledled y DU a'i nod yw annog teuluoedd i feicio a sgwtera i'r ysgol. Mae'n ffordd wych o ddathlu'r manteision anhygoel a ddaw yn sgil teithio yn llesol i'r ysgol. Eleni mae'n digwydd rhwng 27 Medi a 1 Hydref 2021. Dysgwch sut gall eich ysgol gymryd rhan.
![](/media/2589/2589.jpg?anchor=center&mode=crop&width=730&height=410)
Cynhelir wythnos Beicio i'r Ysgol rhwng 27 Medi a 1 Hydref 2021.
Yn ystod yr wythnos, bydd ysgolion yn annog teuluoedd i feicio neu sgwtera i'r ysgol a thu hwnt.
Mae'n gyfle gwych i ddathlu beicio a sgwtera ac i ddangos yr effaith gadarnhaol a gaiff ar iechyd a lles plant, yn ogystal ag ar yr amgylchedd.
Ni chodir tâl am gymryd rhan ac mae'r adnoddau am ddim.
Beth yw Wythnos Beicio i'r Ysgol?
Trefnir Wythnos Beicio i'r Ysgol gan Sustrans gyda chefnogaeth Ymddiriedolaeth Bikeability. Mae Wythnos Beicio i'r Ysgol yn dathlu beicio i'r ysgol a manteision teithio'n llesol i blant.
Er mwyn cefnogi ysgolion gydol wythnos Beicio i'r Ysgol, mae amrywiaeth o adnoddau ar gael. Yn eu plith y mae:
• Posteri i ysgolion
• Pum gweithgaredd dyddiol sy'n gysylltiedig â'r cwricwlwm i'w cwblhau yn y dosbarth, o Cyfnod Sylfaen (Meithrin a Dosbarth Derbyn, 3-5 oed) i Gyfnod Allweddol 3.
• canllaw fideo gydag ymarferion syml i wirio bod eich beic yn ddiogel i'w yrru
• cyflwyniadau
Nod y gweithgareddau hyn yw ysbrydoli disgyblion i feddwl am eu teithiau i'r ysgol, i ddeall manteision teithio llesol ac i ystyried achosion ac effeithiau llygredd aer, gwelwch yr adnoddau yma.
Gallwch fwrw golwg ar adnoddau Wythnos Beicio i’r Ysgol 2021 ar gyfer athrawon yma.
![](/media/1011/family-cycling.jpeg?anchor=center&mode=crop&width=730&height=410)
Ennyn Diddordeb Teuluoedd
Byddem wrth ein bod yn cael gwybod faint o deuluoedd sy'n beicio neu'n sgwtera i'r ysgol yn ystod Wythnos Beicio i'r Ysgol 2021.
Bydd pob teulu sy'n cwblhau ein ffurflen fer ar-lein i'n hysbysu y bydd eu plant yn cymryd rhan yn cael cymryd rhan mewn raffl gyda gwobrau. Bydd cyfle i ennill beic gan Frog bikes.
Crëwyd adnoddau i ysgolion i'w hanfon adref at rieni a gwarcheidwaid ar gyfer Wythnos Beicio i'r Ysgol. Gofynnir i deuluoedd ddweud wrth Sustrans os ydyn nhw'n cymryd rhan. Cliciwch yma i'w canfod.
![](/media/2199/chrisbennett.jpg?anchor=center&mode=crop&width=60&height=60)
Education team