Read this page in English Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Published: 9th JULY 2019

Teithiau Iach yng Nghymru

Mae rhaglen Teithiau Iach Sustrans yn gweithio gydag ysgolion ledled Cymru i greu diwylliant sy'n ei gwneud hi'n haws i blant gerdded, sgwtera neu feicio.

Mum walking to school, holding hands with her twin daughters smiling at the camera

Nid yw teithio llesol yn bwysig yn unig ar gyfer y frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd a lleihau llygredd aer. Mae hefyd yn wych i'n hiechyd a'n lles corfforol.

Mae ein rhaglen Teithiau Iach yng Nghymru, a ariennir gan lywodraeth Cymru, yn helpu plant ledled y wlad i deithio i'r ysgol yn ddiogel, yn hawdd ac yn hyderus ar droed, olwyn, beic a sgwter.

Rydym yn cefnogi Hyrwyddwyr Ysgol ac yn cydweithio â chysylltiadau mewn Awdurdodau Lleol i helpu i wella llwybrau a datblygu ymagweddau ysgol gyfan i deithio mewn modd iachach.

Mae ystod o weithgareddau ymgysylltu yn helpu i adeiladu'r hyder, brwdfrydedd a'r sgiliau sydd eu hangen i helpu i ffurfio arferion teithio iach newydd.

Mae'r gweithgareddau a'r gwersi hyn yn cefnogi ymdrechion ysgolion i ennill gwobrau Eco-Sgolion ac Ysgolion Iach yn ogystal â gweithio tuag at Wobr Ysgol Teithio Llesol Sustrans sy'n cydnabod rhagoriaeth mewn teithio cynaliadwy.

Mae'r Rhaglen Teithiau Iach yn cynnig:

  • arweiniad a chefnogaeth i’r ysgol wrth gynllunio ac ymdrin â materion teithio penodol yn eich ysgol chi
  • gweithgareddau a gwersi gan ein harbenigwyr
  • cymelliadau i hyrwyddo teithio llesol i gymuned yr ysgol
  • mynediad at ein canllawiau gweithgaredd, gwersi cwricwlwm a heriau.

Mae ysgolion sy'n cymryd rhan yn:

  • cwblhau arolygon teithio blynyddol
  • sefydlu o leiaf dau Bencampwr Teithiau Iach
  • cynnwys disgyblion yn eich cynllunio
  • gweithio tuag at ddarparu storfeydd beic a sgwter o safon uchel
  • mynychu ein cyfleoedd hyfforddiant ar gyfer athrawon
  • hyrwyddo teithio llesol yn weithredol drwy gyfarfodydd boreol a gweithgareddau.

Gwnewch gais i ymuno â'r Rhaglen Teithiau Iach

Mae ysgolion sy'n derbyn cefnogaeth gan y Rhaglen Teithiau Iach yn gweld cynnydd sylweddol yn nifer y bobl ifanc a theuluoedd sy'n teithio i'r ysgol yn weithredol.

Os hoffech chi ymuno â'n Rhaglen Teithiau Iach, cwblhewch y ffurflen gais isod.

Ffurflen Gais Teithiau Iach

I gael mwy o wybodaeth am y prosiect, edrychwch ar ein taflen Teithiau Iach:

Dadlwythwch daflen am y Rhaglen Teithiau Iach

Os hoffech gael mwy o wybodaeth, anfonwch e-bost atom neu ffoniwch 02920 650602.

 

Share this page