Rydym yn ehangu ein timau ledled Cymru gyda'r nod o gael mwy o bobl yn cerdded a beicio. Mae ein gwaith gweddnewidiol mewn cymunedau'n creu bywydau hapusach ac amgylcheddau mwy iach i bawb. Yn ein hachos ni, mae'r gweddnewidiad hwn yn digwydd y tu mewn i Sustrans. Dysgwch fwy wrth wrando ar leisiau ein recriwtiaid newydd.
Dywed ein gweithwyr newydd pa safbwyntiau a sgiliau newydd fyddan nhw'n ei gynnig i'r tîm yn Sustrans.
Rydym yn cefnogi cymunedau i ddatblygu llecynnau cyhoeddus anhygoel lle gall pobl gysylltu â'r hyn y mae ei angen arnynt a chreu cysylltiadau rhwng pobl a’i gilydd.
Ond er mwyn gallu cyflawni'r gwaith hwn mae angen y ddealltwriaeth a'r safbwyntiau amrywiol rydym yn eu harddel yma yn Sustrans.
Dewch i gyfarfod â rhai o aelodau newydd ein tîm i ddysgu mwy am yr hyn y maen nhw'n ei ddod gyda nhw i Sustrans.
Alice Bailey, Swyddog Cefnogi
Mae Alice Bailey wedi gweithio yn y sector gwirfoddol yn cefnogi sefydliadau ac unigolion sy'n gweithio gyda phlant, pobl ifanc a'u teuluoedd yng Nghymru.
Fel gwirfoddolwr, mae hi wedi gweithio'n helaeth gyda phlant a phobl ifanc anabl, a phobl nad ydyn nhw’n anabl, ac wedi trefnu a chynnal digwyddiadau mawr.
Mae hi'n edrych ymlaen at gymhwyso ei phrofiadau yn ei gwaith i Sustrans. Mae hi o'r farn fod Sustrans wedi ymrwymo i fod yn rhan o'r gymuned ehangach ac amrywiol.
Daniel Ebrahim, Swyddog Cymorth Technegol
Mae gan Daniel Ebrahim radd mewn Pensaernïaeth ac roedd e'n gweithio gydag Oasis yn y Sblot pan gyfarfu â rhywun a awgrymodd y byddai gennym swyddi a fyddai'n addas i'w sgiliau.
Ymgeisiodd Dani am swydd gyda Sustrans Cymru a bellach mae e'n gweithio gyda'r tîm Cymunedau Cysylltiedig, yn cefnogi archwiliadau strydoedd a gweithgareddau mapio rhwydweithiau.
Tara Aisha, Swyddog Prosiect Technegol
Mae Tara wedi gweithio ym maes trafnidiaeth gyhoeddus a chynllunio trefol, mapio rhwydweithiau teithiol llesol ac i sefydliadau addysg uwch yn Indonesia, Awstralia, yr Alban, Cymru a Lloegr.
Mae hi wedi gweithio gyda chymunedau lleol i ymchwilio i brosesau cynllunio cydweithredol a chyfranogol.
Ei nod yw cynnwys ei gallu proffesiynol ac academaidd i fynd i'r afael â materion sy'n ymwneud â chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn yr amgylchedd adeiledig, yn arbennig ymhlith grwpiau lleiafrifol ac agored i niwed.
Mae hi o'r farn fod Sustrans Cymru wedi ei helpu hi a phawb arall i wireddu eu syniadau drwy sawl maes arbenigedd.
Ruth Stafford, Swyddog Dinasoedd a Threfi Byw
Mae Ruth Stafford wedi gweithio ym maes trafnidiaeth gynaliadwy i sefydliadau cymunedol ac i dri awdurdod lleol.
Mae hi hefyd wedi gweithio i elusennau, busnesau a mentrau cymdeithasol ym maes cynhyrchu bwyd lleol, rheolaeth ac ymwybyddiaeth gwastraff.
Mae Ruth wedi byw mewn sawl lle a bellach mae hi wedi ymgartrefu ar gyrion y Drenewydd, ger y pentref lle cafodd ei magu.
Mae hi'n teimlo’n angerddol ynghylch meysydd iechyd, addysg, yr amgylchedd a chydraddoldeb. Mae hi o'r farn bod Sustrans yn gofalu am y pethau hyn ac mae'n gweithio tuag at eu gwella.
Beth am ddod yn rhan o dîm arloesol a deinamig?
Dywedodd Christine Boston, Cyfarwyddwr Sustrans Cymru:
"Rydym am hybu mannau bywiog sydd wedi eu creu ar gyfer pawb, lle gall pawb eu mwynhau.
"Mae'n wych gallu datblygu'r tîm yng Nghymru.
"Mae yna her fawr o'n blaenau i ymateb i fygythiad newid hinsawdd ac ysbrydoli pobl i deithio mewn ffyrdd eraill.
"Rydym yn falch iawn ein bod yn gallu meithrin amrywiaeth o sgiliau newydd, gwireddu safbwyntiau, cynyddu ein presenoldeb mewn cymunedau ac ymestyn y cymorth y gallwn ei gynnig i'r bobl sydd ei angen fwyaf, trwy weithio i Sustrans.
“Bydd cyfleoedd i ymuno â’n tîm yn parhau a byddwn yn annog unrhyw un a chanddo ddiddordeb yn ein gwaith ac a hoffai fod yn rhan o dîm arloesol, deinamig i gysylltu â ni. Cysylltwch a dysgwch fwy."
Ymestyn ein rhwydwaith partneriaid
Yn ogystal ag ehangu ein timau yng Nghymru, rydym hefyd yn ehangu'r sefydliadau rydym yn gweithio gyda nhw.
Bydd hyn yn ein helpu i osod her i'n hunain i wella'r ffordd rydym yn gweithio, a chreu lleoedd mwy cynhwysol a chyfartal.
Rydym yn gwneud mwy o waith er mwyn sicrhau bod ein gwaith yn gwella a'n bod yn rhoi blaenoriaeth i bobl o gymunedau difreintiedig, pobl ar y ffiniau neu a orthrymwyd.
Dysgwch fwy am ein cyfleoedd yng Nghymru ac ymunwch â'r tîm.
A oes gennych ddiddordeb yn gweithio i Sustrans? Edrychwch ar y swyddi rydym yn eu hysbysebu.