Mae Sustrans Cymru yn falch o fod yn cyflwyno'r Rhaglen Teithiau Iach mewn ysgolion ledled Cymru am 3 blynedd arall. Mae Teithiau Iach, rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn gweithio gydag ysgolion ledled Cymru i greu diwylliant sy'n ei gwneud hi'n haws i blant gerdded, sgwtera neu feicio i'r ysgol.
Mae Teithiau Iach yn datblygu dulliau ysgol gyfan o deithio llesol gydag ystod o weithgareddau atyniadol sy'n helpu i fagu'r hyder, y brwdfrydedd a'r sgiliau sydd eu hangen i ffurfio arferion teithio llesol newydd.
Dywedodd Neil Canham, Dirprwy Gyfarwyddwr, Sustrans Cymru:
"Ni fu erioed yn bwysicach creu amgylchedd diogel i blant gerdded, sgwtera a beicio i'r ysgol.
"Rydyn ni eisiau gweld mwy o Ysgolion Teithio Llesol ar draws Cymru. Mae gan Ysgolion Teithio Llesol yr uchelgais i weld y rhan fwyaf o'u disgyblion yn teithio i'r ysgol yn weithredol.
"Maent yn deall y buddion a ddaw yn sgil teithio llesol i'r gymuned ehangach - llai o dagfeydd, gwell ansawdd aer a phlant a theuluoedd iachach.
"Gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru rydym wrth ein bodd ein bod yn cyflwyno’r rhaglen Teithiau Iach am 3 blynedd arall, a fydd yn helpu i wireddu’r weledigaeth hon.
"Cyflwynir y rhaglen gan ein tîm gwych o Swyddogion Teithiau Iach, sy'n cefnogi gyda chynllunio, hyrwyddo a darparu ystod eang o ddigwyddiadau a gweithgareddau i hybu lefelau teithio llesol.
"Rydyn ni'n edrych ymlaen at weithio gydag ysgolion, rhieni ac awdurdodau lleol i greu cymunedau ysgol hapusach ac iachach."
Dywedodd Lee Waters, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth:
"Mae gwneud cerdded a beicio yn rhan normal o’r diwrnod ysgol yn hanfodol i sicrhau bod teithio llesol yn rhan annatod o’n diwylliant yn y tymor hir.
"Rwyf wedi gweld enghreifftiau gwych o hyn mewn ysgolion yng Nghymru ac edrychaf ymlaen at weld hyd yn oed yn fwy.
"Gwnaethom gadarnhau’n ddiweddar y byddem yn gwario £2 filiwn i wneud cerdded a beicio i’r ysgol yn fwy diogel, ac mae sicrhau bod y fenter siwrneiau llesol yn parhau yn gam arall i’r cyfeiriad cywir."
Mae'r Rhaglen Teithiau Iach yn cynnig:
- arweiniad a chefnogaeth i fynd i'r afael â materion teithio penodol o amgylch yr ysgol
- gweithgareddau a gwersi yn canolbwyntio ar deithio llesol
- cymhellion i gymuned yr ysgol sy'n hyrwyddo beicio, cerdded a sgwtera
- mynediad i'n canllawiau gweithgaredd, deunyddiau cymorth cwricwlwm a heriau ar-lein.