Rydyn ni i gyd yn cofio'r foment gyffrous honno o ddysgu reidio beic am y tro cyntaf. Mae'n gyffrous ac yn foment bondio wych i chi a'ch plentyn - heb sôn am gyfle gwych i dynnu lluniau. Ond ble ydych chi'n dechrau dysgu'ch plentyn i reidio beic heb sadwyr? Dyma ein canllaw naw cam.
![Mum hugging daughter on pink bike](/media/1113/1113.jpg?center=0.15625,0.46491228070175439&mode=crop&width=730&height=410)
Beth sydd ei angen arnoch:
- Beic heb sadwyr ar gyfer pob plentyn
- Sbaner er mwyn tynnu’r pedalau a’u rhoi yn ôl ar y beic. Os nad yw chwith a dde wedi ei nodi ar y pedalau, gwnewch nodyn eich hun gan fod y pedal chwith yn cydio yn yr edau i’r gwrthwyneb i’r dde.
Camera i gofnodi’r foment fawr (dewisol)
Gall beicio am y tro cyntaf heb sadwyr fod yn atgof cryf ym mywyd plentyn. Mae’n gyflawniad a fydd yn helpu i feithrin hyder a theimlad naturiol o antur. Ac mae dysgu'ch plentyn i reidio beic yn foment hyfryd o wneud cof i chi hefyd.
1. Paratowch drwy ostwng lefel y sedd a thynnu’r ddau bedal
Mae gostwng y sedd a thynnu’r pedalau yn galluogi’r plentyn i sgwtio ar
y beic gan ddefnyddio’i ddwy droed. Defnyddiwch y cyfle hwn i ddarparu
cyfarwyddyd ar ddefnyddio’r brêcs.
2. Camau cawr
Dangoswch sut mae cawr yn cerdded. Pan fo’r plentyn yn barod, anogwch
ef ymlaen tua 10 metr gan ddefnyddio camau cawr.
3. Neidiau cangarwˆ
Dangoswch neidiau cangarwˆ . Anogwch y plentyn ymlaen tua 10 metr gan
ddefnyddio neidiau cangarwˆ .
4. Rhowch un pedal yn ôl ar y beic
Naill ai’r dde neu’r chwith, nid oes gwahaniaeth. Gwnewch yn siwˆ r
fod y plentyn yn gyfforddus ar y beic ac yn teimlo’n ddiogel. Ffordd
hawdd o wneud hyn yw ei gael i ‘siglo’ ychydig tra’n gwasgu’r brêcs.
5. Sgwtio gydag un pedal
Gydag un droed ar y pedal, anogwch y plentyn i sgwtio yn ei flaen gan
ddefnyddio’r droed arall. Gwnewch yn siwˆ r ei fod yn edrych i fyny. Stopiwch ar
ôl tua 10 metr.
6. Y ddau bedal ymlaen
Rhowch y pedal arall ymlaen. ‘Siglwch’ (tra’n gwasgu’r brêcs) i
ddangos bod y beic yn sefydlog a diogel.
7. Cynnig cyntaf – Gafaelwch yn y plentyn (nid y beic)
Eglurwch eich bod yn mynd i ddal ei gefn a’i ysgwydd/rhan uchaf y
fraich. Gofynnwch i’r plentyn roi ei draed ar y pedalau a gwnewch
yn siwˆ r ei fod yn barod. Anogwch ef i edrych i fyny, rhyddhau’r
brêcs a phedlo. Cerddwch ymlaen (gan ddal i gydio yn y plentyn)
ac yn araf rhyddhewch eich gafael. Stopiwch ar ôl 3-5 metr.
8. Ail gynnig
‘Siglwch’ (tra’n gwasgu’r brêcs). Cydiwch yn y plentyn fel y tro blaenorol,
gofynnwch iddo roi ei ddwy droed ar y pedalau. Anogwch ef i edrych i fyny. Os
yw’r llwybr yn glir, cyfrwch i lawr o dri ac anogwch y plentyn i ryddhau’r brêcs a
phedlo ymlaen. Rhyddhewch eich gafael ar ôl ychydig o gamau, yna camwch yn
ôl er mwyn gwneud i’r pellter a deithiwyd edrych yn fwy. Gwaeddwch ‘stop’ ar ôl
5-10 metr. Nawr cyfrwch y camau fel y gall weld pa mor bell y mae wedi teithio.
9. Trydydd cynnig
Y tro hwn, lleihewch faint yr ydych yn cydio yn y plentyn drwy afael yn ei ddillad
gydag un llaw ac yng nghyrn llywio’r beic gyda’r llall. Ailadroddwch y camau
blaenorol, gan ryddhau eich gafael ar ôl ychydig gamau a gadael i’r plentyn
reidio mor bell ag y mae’n dymuno.
Pethau i’w cofio
- Dewch o hyd i ardal dawel a didraffig, megis llwybr beicio neu rhywle sydd â’r glaswellt wedi’i dorri’n fyr neu sydd â tharmac.
- Gall goledd ychydig ar i lawr fod o gymorth yn aml.
- Cadwch lygad am y peryglon megis cerddwyr, cŵn, peli a cherbydau.
- Gwnewch yn siŵr fod y pedalau wedi eu rhoi’n ôl yn gywir
Am gael mwy o wybodaeth?
Dewch o hyd i lwybr di-draffig ar y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol