Sut i gymryd rhan yn Wythnos Beicio i’r Ysgol

Ewch amdani a beicio neu sgwtera i'r ysgol rhwng 27 Medi a 1 Hydref 2021.

Dyma sut gallwch chi ymuno a dathlu beicio a sgwtera i’r ysgol mis Medi eleni.

Cynhelir Wythnos Benicio i’r Ysgol eleni o 27 Medi hyd 1 Hydref 2021.

Ac am y tro cyntaf, rydym am geisio olrhain faint o deuluoedd sy’n cymryd rhan.

Mae Wythnos Beicio i'r Ysgol yn ddigwyddiad ledled y DU sy'n dathlu beicio a sgwtera i'r ysgol ac yn hyrwyddo manteision teithio llesol i iechyd plant a'r amgylchedd.

Gall pawb gymryd rhan yn Wythnos Beicio i’r Ysgol . Does dim rhaid i'ch ysgol gofrestru er mwyn gwneud adduned.

Yn hytrach, y cwbl a ofynnwn yw ichi adael inni wybod os byddwch chi a’ch teulu yn beicio neu’n sgwtera i’r ysgol rhwng 27 Medi ac 1 Hydref drwy wneud adduned siwrneiau ar y ffurflen isod.

Gellir gwneud eich taith i'r ysgol ar unrhyw fath o feic, (e.e. beic llaw, dirwyn olwyn ar gefn beic, beic cargo) neu sgwter.

Drwy addunedu eich teithiau, cewch gyfle i ennill Frog Bike gwerth hyd at £400. Darllenwch y telerau ac amodau yma.

Byddwn hefyd yn anfon canllaw am ddim i gerdded beicio a sgwtera i'r ysgol, gyda sawl cyngor doeth a gweithgareddau.

Pam beicio neu sgwtera ar y ffordd i'r ysgol?

Ceir llawer o fanteision i fynd ati i ymarfer y corff ar feic ar y ffordd i'r ysgol.

  1. Mae'n hwb i les corfforol a meddyliol plant.
  2. Mae plant yn cyrraedd wedi ymlacio, yn fwy effro a pharod i gychwyn y diwrnod.
  3. Ceir llai o dagfeydd traffig a llygredd ger clwydi'r ysgol.
  4. Mae plant yn fwy ymwybodol o ddiogelwch ar y ffyrdd ac yn teimlo'n fwy annibynnol.

Yn ystod Big Pedal Sustrans (Ebrill 2021) bu i ragor na miliwn o blant feicio a sgwtera i'r ysgol.

Gallwch ein helpu i ddarganfod faint o deuluoedd sy'n beicio neu'n sgwtera i'r ysgol yn ystod Wythnos Beicio i'r Ysgol drwy addunedu i gymryd rhan.

Gwybodaeth ychwanegol at eich sylw

Cofiwch ddilyn mesurau cadw pellter cymdeithasol wrth gymryd rhan yn ystod Wythnos Beicio i'r Ysgol.

Sustrans sy'n gyfrifol am drefnu Ysgol Beicio i'r Ysgol, gyda chefnogaeth ein partneriaid, yr Ymddiriedolaeth Bikeability

Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol.

Amodau a Thelerau Raffl Wythnos Beicio i'r Ysgol, Gwobr: beic Frog.

  1. I gael eich cynnwys yn raffl Gwobr Frog Bikes Wythnos Beicio i'r Ysgol, rhaid ichi lenwi’r ffurflen erbyn hanner nos dydd Gwener 1af Hydref 2021.
  2. Ni chaiff ceisiadau a dderbynnir wedi hanner nos dydd Gwener 1af Hydref 2021 eu cynnwys yn y raffl gwobr.
  3. Nid oes tâl mynediad ar gyfer y raffl gwobr ar hap, ac nid oes angen gwneud pryniant i gymryd rhan yn y gystadleuaeth hon.
  4. Nid oes hawl gan weithwyr Sustrans nag aelodau eu teuluoedd neu unrhyw un a gysylltir yn broffesiynol â'r gystadleuaeth gymryd rhan.
  5. Y wobr yw beic gan Frog Bikes gwerth hyd at £400 (Pris Gwerthu a Argymhellir/RRP)
  6. Dim ond unwaith gan bob teulu y caniateir i’r ffurflen gael ei chwblhau.
  7. Wrth gwblhau ffurflen, rydych yn cytuno i gael eich ymrwymo i'r telerau a'r amodau hyn.
  8. Dewisir yr enillydd ar hap.
  9. Bydd Sustrans yn cysylltu â'r enillwyr trwy neges e-bost. Bydd unrhyw ddata personol ynghylch ymgeiswyr yn cael ei ddefnyddio'n unol â deddfwriaeth diogelu data cyfredol yn unig a dim ond yn cael ei ddefnyddio i weinyddu'r wobr. Pan fydd yr enillydd wedi cadarnhau ei fod am dderbyn y wobr, ac wedi rhoi ei fanylion cyswllt, byddwn yn anfon ei fanylion at noddwr y wobr, er mwyn trefnu danfon y wobr.
  10. Ni chynhigir arian yn lle'r gwobrau, hyd yn oed pe bai'r gystadleuaeth yn cael ei chanslo.
  11. Dylai'r enillydd hawlio'r wobr erbyn dydd Gwener 15fed o Hydref 2021. Wedi'r dyddiad hwn, mae gan yr hyrwyddwyr yr hawl i dynnu'r wobr yn ôl yn gyfan gwbl neu ddewis enillydd arall.
  12. Nid oes modd cyfnewid y wobr. Os cwyd amgylchiadau nas rhagwelwyd, bydd gan yr hyrwyddwr yr hawl i gynnig gwobr arall.
  13. Mae gan yr hyrwyddwr yr hawl i ganslo neu newid telerau ac amodau'r gystadleuaeth heb roi rhybudd, oherwydd unrhyw ddigwyddiad y tu hwnt i reolaeth yr hyrwyddwr.
  14. Gall yr hyrwyddwyr amnewid unrhyw wobr gydag un o'r un gwerth neu werth uwch, yn ôl ei benderfyniad, ar ei ddisgresiwn llwyr.
  15. Ni all yr Hyrwyddwr dderbyn cyfrifoldeb am golled neu lygriad data ar daith.
  16. Yr Hyrwyddwr yw Sustrans Head Office, 2 Cathedral Square, College Green, Bryste BS1 5DD.
  17. Gellir cael enw’r enillydd ar ôl 16 Hydref 2020 trwy anfon ebost at education@sustrans.org.uk.